Warning: A non-numeric value encountered in /home/westernbay/3QKN0C1T/htdocs/wp-content/themes/Divi/functions.php on line 5841

BETH YW YSTYR DIOGELU A
THREFNIADAU DIOGELU RHAG COLLI RHYDDID?

BETH YW YSTYR DIOGELU A THREFNIADAU DIOGELU RHAG COLLI RHYDDID?

Term cyffredinol yw diogelu ar gyfer cymryd camau a chynyddu ymwybyddiaeth er mwyn cadw pobl yn ddiogel rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.
Cyflwynwyd y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn 2007 ac maent yn berthnasol i bobl sydd mewn gofal cartref neu ysbyty’n unig. Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn darparu fframwaith statudol ar gyfer gweithredu a gwneud penderfyniadau ar ran unigolion heb y galluedd meddyliol i wneud hynny drostynt eu hunain. Mae hyn bellach yn golygu nad yw person sy’n destun goruchwyliaeth a rheolaeth barhaus yn teimlo ei fod yn colli ei ryddid.

AR BWY Y MAE HYN YN EFFEITHIO A SUT?

AR BWY Y MAE HYN YN EFFEITHIO A SUT?


Term sy’n ehangach nag ‘amddiffyn plant’ yw diogelu ac mae’n ymwneud â’r camau gweithredu a gymerir i hyrwyddo lles plant a’u hamddiffyn rhag niwed.

Os nad oes gan blentyn y galluedd i gydsynio, gellir ei drin heb ei ganiatâd o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005), ar yr amod nad yw’r driniaeth yn arwain at golli rhyddid.

Atgyfeiriadau/pryderon a dderbyniwyd gan bob awdurdod lleol, ar 31 Mawrth.

DIODDEFWYR CAM-DRIN HONEDIG

Nifer yr atgyfeiriadau dan y trefniadau diogelu rhag colli rhyddid a dderbyniwyd ym Mae’r Gorllewin:

PA GEFNOGAETH Y MAENT YN EI CHAEL?

PA GEFNOGAETH Y MAENT YN EI CHAEL?


– Mewn rhai achosion diogelu, gwneir atgyfeiriadau i Eiriolwyr Galluedd Meddyliol Annibynnol a delir, ond ar ôl i’r cam-drin ddigwydd fel arfer.

– Mae’r Tîm Amddiffyn Oedolion Hawdd eu Niweidio’n monitro lles pobl mewn cartrefi gofal.

PA NEWIDIADAU Y MAE’N RHAID I NI GYNLLUNIO AR EU CYFER?

PA NEWIDIADAU Y MAE’N RHAID I NI GYNLLUNIO AR EU CYFER?


– Mae oedran poblogaeth Bae’r Gorllewin yn cynyddu, gan awgrymu y bydd y galw am fwy o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a chyfeiriadau oedolyn mewn perygl hefyd yn cynyddu.

– Mae angen symleiddio mynediad i eiriolwyr ar gyfer oedolion mewn perygl.


– Mae’n hanfodol parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar sy’n galluogi pobl i barhau i fod yn ddiogel ac yn annibynnol ac i fyw yn eu cartrefi eu hunain yn y gymuned.

– Cydnabuwyd bod angen mwy o waith i nodi canlyniadau personol pobl sydd wedi mynd drwy’r broses Amddiffyn Oedolion Hawdd eu Niweidio.

LAWRLWYTHWCH Y PDF I GAEL MWY O WYBODAETH

LAWRLWYTHWCH Y PDF I GAEL MWY O WYBODAETH



© – Western Bay Programme
Tel/Ffôn: 01792 633805
western.bay@swansea.gov.uk