Warning: A non-numeric value encountered in /home/westernbay/3QKN0C1T/htdocs/wp-content/themes/Divi/functions.php on line 5841

Iechyd

Anabledd Corfforol

CLICIWCH AR Y SAETH I DDARLLEN MWY

BETH YW YSTYR IECHYD?

BETH YW YSTYR IECHYD?

Cyflwr corfforol, meddyliol a lles cymdeithasol cyflawn yw iechyd ac nid yn unig yn absenoldeb afiechyd neu lesgedd. (Sefydliad Iechyd y Byd)


Drwy’r bennod hon, cyfeirir at Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM). Mae hwn yn cynnwys yr un ardal â Bae’r Gorllewin.

AR BWY Y MAE HYN YN EFFEITHIO A SUT?

AR BWY Y MAE HYN YN EFFEITHIO A SUT?

Dengys tystiolaeth fod lle rydych yn byw a pha mor ddifreintiedig yw’r ardal honno yn dylanwadu’n drwm ar ddisgwyliad oes. Mae’r dylanwad hwn yn cynyddu hyd yn oed yn fwy, gan ddibynnu ar rywedd.

Effeithir ar ddisgwyliad oes a disgwyliad oes iach pobl.

LIFE EXPECTANCY – is a measure of the average number of years individuals can be expected to live for. DISGWYLIAD OES – dyma fesur o nifer y blynyddoedd, ar gyfartaledd, y gall unigolion ddisgwyl byw amdanynt.
DISGWYLIAD OES IACH – mae hwn yn mesur, ar gyfartaledd, sawl blwyddyn y gellir disgwyl byw mewn iechyd da.

Ym Mae’r Gorllewin, mae 27% o’r ardaloedd cynnyrch ehangach (mae 323 ardal o’r fath, sy’n ardaloedd daearyddol bychain at ddiben casglu ystadegau) ymysg yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Disgwyliad oes a disgwyliad oes iach adeg genedigaeth, dynion a menywod, Cymru a Bwrdd Iechyd PABM, 2010-2014

Gall nifer o bethau effeithio ar iechyd pobl:

CLEFYDAU CRONIG

Gall cofrestrau afiechyd meddygfeydd meddyg teulu o nifer y bobl sy’n cael eu trin am glefydau cronig adlewyrchu baich afiechyd mewn cymunedau.

BABANOD Â PHWYSAU GENI ISEL

Mae gan oddeutu 6 o bob 100 o fabanod yn y Deyrnas Unedig bwysau geni isel (dan 2,500 gram)*. Dangosydd morbidrwydd (y gyfradd pan fo pobl yn mynd yn sâl) a marwolaethau (y gyfradd pan fo pobl yn marw) babanod yw pwysau geni isel a gall arwain at glefydau/anableddau cronig fel oedolion.

SMYGU

Mae smygu’n cyfrannu’n sylweddol at glefydau anadlol, gan gynnwys clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, llawer o ganserau a gwaethygu asthma. Mae smygu hefyd yn effeithio’n negyddol ar ddiabetes, clefyd cardiofasgwlaidd, pwysau gwaed a chlefyd y galon.


Mae dau draean o smygwyr yn dechrau smygu cyn 18 oed. Mae smygu’n fwyaf cyffredin yn y grŵp oedran 25-34 (24%) ac yn lleiaf cyffredin ymhlith pobl dros 60 oed (11%).

BWYTA’N IACH

Mae deiet iach yn elfen bwysig o fyw’n iach.


Mae’n ymddangos bod arferion bwyta’n iach pobl yn PABM yn dirywio. Mae rhagamcanion yn awgrymu y bydd gan oddeutu 84% o oedolion ar draws PABM ddeiet gwael erbyn 2025.

GWEITHGAREDDAU CORFFOROL

Mae gweithgarwch corfforol cymedrol ar o leiaf 5 niwrnod yr wythnos yn dda iawn i iechyd corfforol a meddyliol. Ym Mae’r Gorllewin, mae 28.1% o oedolion yn actif yn gorfforol, sy’n gyfran lai o oedolion na chyfartaledd Cymru, sef 29.9%.


Yn 2014, roedd 38% o oedolion ym Mae’r Gorllewin yn segur yn gorfforol. Yn ystod y cyfnod hwn, y cyfartaledd ar gyfer segurdod corfforol yng Nghymru oedd 34%.

CYFRANOGIAD MEWN CHWARAEON

Yn Arolwg ar Oedolion Egnïol 2014, nododd 65% o oedolion eu bod wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden gorfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, a oedd ychydig yn llai na ffigur Cymru, sef 72%.


Mae plant gordew’n fwy tebygol o fod yn oedolion dros bwysau neu ordew. Gall effaith hyn ar iechyd oedolion gynnwys diabetes math 2, clefyd y galon, rhai mathau o ganser, clefyd yr afu a phroblemau symudedd.

GORDEWDRA

Mae’r cynnydd mewn deietau gwael a segurdod corfforol wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sydd dros bwysau neu’n ordew. Mae gordewdra’n ffactor risg ar gyfer llawer o anhwylderau cronig megis diabetes.

Er bod gordewdra ym Mae’r Gorllewin wedi parhau’n weddol sefydlog dros y 5 mlynedd diwethaf, mae’n parhau i fod yn broblem ar gyfer y dyfodol ac mae’n fwy na chyfartaledd Cymru.

Gallwn amcangyfrif bod 99,000 o oedolion gordew ar draws Bae’r Gorllewin.

YFED ALCOHOL

Yn gyffredinol, roedd cwymp bach yn nifer y bobl a aeth i’r ysbyty o ganlyniad i alcohol rhwng 2010-2011 a 2014-2015, ar gyfer cyflyrau a oedd yn ymwneud yn benodol ag alcohol (pob achos a achoswyd gan alcohol) a chyflyrau y gellid eu priodoli i alcohol (lle roedd alcohol yn gyfrifol mewn rhai ond nid yr holl achosion.)


Rydym yn amcangyfrif bod oddeutu 172,000 o oedolion ar draws Bae’r Gorllewin yn yfed mwy na’r hyn a argymhellir.

NIWED O GANLYNIAD I GYFFURIAU ANGHYFREITHLON

Amcangyfrifir mai 11,715 yw’r cyfanswm yn ardal Bae’r Gorllewin, sy’n 20.1% o gyfanswm Cymru, sef 58,000.

In contrast to alcohol-related admissions, admissions for named illicit drugs have risen over the period and are higher for Western Bay than for Wales, with some areas of Western Bay having admission rates substantially higher than for Wales and rising.

IECHYD RHYWIOL

Ers 2012, mae cynnydd cyffredinol wedi bod yn nifer yr heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI), yn ôl diagnosis clinigau iechyd rhywiol integredig ar draws Cymru. Cafwyd y rhan fwyaf o’r diagnosisau STI ymhlith pobl rhwng 15 a 24 oed. Ymhlith menywod, roedd yr oedran canolrif rhwng 20 a 24 oed, a 33.5 ar gyfer syffilis. Ymhlith dynion, roedd yr oedrannau canolrif ychydig yn uwch, gan amrywio o 23 i 28 oed, a 34 oed ar gyfer syffilis. O ran HIV, yr oedran canolrif yng Nghymru yn 2014 oedd 39 oed ar gyfer menywod a 38 oed ar gyfer dynion.

IECHYD Y GEG

Mae afiechyd y geg yn dechrau mewn plentyndod.


Cynhaliwyd arolwg deintyddol o blant 3 oed yn 2013-2014 a dengys data mai canran y plant ym Mae’r Gorllewin ag o leiaf un dant yn pydru yw 19.2%, sy’n uwch na chyfartaledd Cymru, sef 14.5%.

GWRTHSEFYLL GWRTHFIOTIGAU

Mae gan Fwrdd Iechyd PABM y gyfradd uchaf o ragnodi gwrthfiotigau mewn gofal sylfaenol yng Nghymru a’r ail uchaf yng Nghymru a Lloegr ar y cyd.

PETHAU A GRYBWYLLWYD GAN BOBL SY’N BWYSIG IDDYNT

PETHAU A GRYBWYLLWYD GAN BOBL SY’N BWYSIG IDDYNT

PA GEFNOGAETH Y MAENT YN EI CHAEL?

PA GEFNOGAETH Y MAENT YN EI CHAEL?

Gall yr ystod lawn o wasanaethau y Bwrdd Iechyd i’w gweld yma:http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/863/page/39248

Mae amrywiaeth o wasanaethau gofal cymunedol a sylfaenol, yn ogystal â gwasanaethau ysbyty arbenigol. Maent yn cynnwys:

RHAGLENNI BRECHIADAU FFLIW

Mae amrywiaeth o raglenni imiwneiddio ar gael gydol oes sy’n cyfrannu at atal afiechydon yn sylweddol.


– Pobl dros 65 oed

– Babanod 6 mis oed a phobl dan 65 oed mewn grwpiau mewn perygl clinigol

– Menywod beichiog

– Gweithwyr gofal iechyd sy’n gofalu’n uniongyrchol am gleifion

BRECHIAD Y FRECH GOCH, Y DWYMYN DOBEN A RWBELA (MMR)

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod nifer y bobl sy’n cael brechiadau wedi gwella. Mae’n dda mewn plant ifanc, ond yn lleihau wrth iddynt fynd yn hŷn ac yn cyrraedd y glasoed.

GWASANAETHAU CAMDDEFNYDDIO SYLWEDDAU

Cyn i Fwrdd Cynllunio Ardal Bae’r Gorllewin gael ei sefydlu, roedd pob un o’r tair ardal awdurdod lleol (Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe) yn gyfrifol am gomisiynu eu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau eu hunain.

Gwasanaethau i helpu defnyddwyr sylweddau i gael triniaeth heb eu gorfodi i ymrwymo i raglenni strwythuredig:

Gwasanaethau gyda rhaglenni strwythuredig ar gyfer pobl sy’n gadael y carchar:

Gwasanaethau ar gyfer unigolion â lefel uchel o angen:

GWASANAETH INTEGREDIG CYMORTH I DEULUOEDD BAE’R GORLLEWIN

Yn gweithio gyda theuluoedd pan fo rhiant yn camddefnyddio sylweddau neu alcohol. Disgwylir i’r gwasanaeth hwn weithio gyda 105 o deuluoedd ym Mae’r Gorllewin bob blwyddyn.

TEULUOEDD YN GYNTAF

Rhaglen a ariennir drwy grant gan Lywodraeth Cymru yw Teuluoedd yn Gyntaf. Mae’n cyfrannu at wella canlyniadau ar gyfer teuluoedd a phobl ifanc, yn ogystal â chyflwyno nifer o wasanaethau ymyrryd yn gynnar.

PA NEWIDIADAU Y MAE’N RHAID I NI GYNLLUNIO AR EU CYFER?

PA NEWIDIADAU Y MAE’N RHAID I NI GYNLLUNIO AR EU CYFER?

Yn ôl y dystiolaeth, rhaid ystyried bod camddefnyddio cyffuriau ac alcohol ymhlith cleifion ag anhwylderau iechyd meddwl yn gyffredin yn hytrach nag yn eithriadol. Nid yw’r ddarpariaeth i fynd i’r afael â hyn yn foddhaol yng Nghymru ar hyn o bryd.


Mae angen canolbwyntio ar gyflwyno gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n ceisio atal ac oedi’r angen am wasanaethau gofal acíwt ac atebion gofal a chefnogaeth tymor hir.

Mae angen canolbwyntio ar atal, a helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus am eu ffordd o fyw.

Poblogaeth hŷn sy’n cynyddu, gyda chynnydd cyfatebol yn nifer y bobl sy’n ddibynnol yn economaidd

Parhau i weithio i leihau anghydraddoldebau iechyd

Effaith ehangach y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon ar y gymdeithas ac iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol

Rhaid i atal ac ymyrryd yn gynnar chwarae rôl bwysig

BETH YW YSTYR ANABLEDD CORFFOROL?

BETH YW YSTYR ANABLEDD CORFFOROL?

Term hollgynhwysol yw anabledd ar gyfer namau, cyfyngiadau ar weithgarwch a chyfyngiadau ar gyfranogiad. Anabledd yw’r berthynas rhwng unigolion â chyflwr iechyd a ffactorau personol ac amgylcheddol, megis: agweddau negyddol, cludiant anhygyrch a chefnogaeth gymdeithasol gyfyngedig (Dosbarthiad Rhyngwladol Gweithredu, Anabledd ac Iechyd).


O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae’r term anabl yn berthnasol i bobl â nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol sylweddol a thymor hir ar eu gallu i wneud gweithgareddau dyddiol arferol.

AR BWY Y MAE HYN YN EFFEITHIO A SUT?

AR BWY Y MAE HYN YN EFFEITHIO A SUT?

Yn ystod yr asesiad hwn, daeth yn glir fod bwlch yn y data ar bobl ag anableddau corfforol ym Mae’r Gorllewin. Mae awdurdodau lleol yn cadw cofrestrau anableddau, ond mae cael eich cynnwys ar y gofrestr yn wirfoddol. Felly, nid ystyrir yr wybodaeth yn gofnod gwirioneddol o bobl ag anableddau yn y rhanbarth. Mae gofynion newydd yn ymwneud ag anableddau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a rhoddir y rhain ar 1 Ebrill 2017.

PA GEFNOGAETH Y MAENT YN EI CHAEL?

PA GEFNOGAETH Y MAENT YN EI CHAEL?

Mae Bwrdd Iechyd PABM yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau cymunedol a gofal sylfaenol, yn ogystal â gwasanaethau ysbyty arbenigol, sy’n helpu i gefnogi iechyd a lles da yn y gymuned ac yn ceisio cefnogi’r bobl y mae angen gofal iechyd arnynt. Gellir gweld holl wasanaethau’r bwrdd iechyd ar ei wefan (http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/863/page/39248), ond disgrifir detholiad bach o’r gwasanaethau a ddarperir gan y bwrdd iechyd yn yr asesiad hwn.

PA NEWIDIADAU Y MAE’N RHAID I NI GYNLLUNIO AR EU CYFER?

PA NEWIDIADAU Y MAE’N RHAID I NI GYNLLUNIO AR EU CYFER?


– Gall pobl ag anableddau fod yn fwy agored i gyflyrau eilaidd a rhai sy’n gysylltiedig ag oedran, a marwolaeth cyn amser

– Mae bwlch yn yr wybodaeth a gedwir am bobl ag anableddau corfforol. Mae angen i hyn newid er mwyn helpu pobl i gael mynediad i wasanaethau perthnasol.

– Dylid adeiladu tai arfaethedig yn y dyfodol yn unol â safonau Cartrefi Gydol Oes er mwyn cefnogi heneiddio’n iach a hyrwyddo annibyniaeth.

– Trefnu gofal iechyd drwy wasanaethau gofal cymunedol a sylfaenol yn hytrach na thrwy ysbytai’n unig

LAWRLWYTHWCH Y BENNOD/PDF I GAEL MWY O WYBODAETH

LAWRLWYTHWCH Y BENNOD/PDF I GAEL MWY O WYBODAETH



© – Western Bay Programme
Tel/Ffôn: 01792 633805
western.bay@swansea.gov.uk