Warning: A non-numeric value encountered in /home/westernbay/3QKN0C1T/htdocs/wp-content/themes/Divi/functions.php on line 5841

BETH YW YSTYR NAM SYNHWYRAIDD?

BETH YW YSTYR NAM SYNHWYRAIDD?

Term cwmpasog yw ‘nam synhwyraidd’ a ddefnyddir i ddisgrifio colli synhwyrau pellter, h.y. golwg a chlyw.

Mae tri grŵp gwahanol iawn dan nam synhwyraidd:

1. NAM AR Y GOLWG/
NAM GWELEDOL

2. NAM AR Y CLYW

3. NAM AR DDAU SYNNWYR

AR BWY Y MAE HYN YN EFFEITHIO A SUT?

AR BWY Y MAE HYN YN EFFEITHIO A SUT?

NAM AR Y GOLWG/NAM GWELEDOL

NAM AR Y GOLWG/NAM GWELEDOL

CYFANSWM POBLOGAETH BAE’R GORLLEWIN YR AMCANGYFRIFIR EU BOD WEDI COLLI GOLWG

NIFER Y PLANT A PHOBL IFANC YR AMCANGYFRIFIR EU BOD YN DDALL NEU FOD GANDDYNT OLWG RHANNOL YM MAE’R GORLLEWIN

Mae pobl sy’n colli golwg 1.7 gwaith yn fwy tebygol o gwympo ac 1.9 gwaith yn fwy tebygol o gwympo’n rheolaidd.

Mae smygwyr yn dyblu’r risg y byddant yn dioddef o anhwylderau llygaid, a hynny’n gynt na phobl nad ydynt yn smygu.

Mae gordewdra wedi’i gysylltu â sawl anhwylder llygaid, gan gynnwys cataractau.


Mae pobl o boblogaethau Asiaidd mewn mwy o berygl o ddioddef o gataractau.

Amcangyfrifir bod rhyw fath o broblem weledol yn effeithio ar 60% o bobl sydd wedi goroesi strôc.

Mae oedolion ag anawsterau dysgu’n llawer mwy tebygol o fod â nam ar eu golwg na’r boblogaeth gyffredinol.

NAM AR Y CLYW

NAM AR Y CLYW

RHAGAMCAN O NAM AR Y CLYW YMHLITH PLANT

Rhagwelir y bydd nifer y plant â nam ar y clyw’n cynyddu ychydig dros amser oherwydd y cynnydd cymedrol rhagamcanol yn nifer y bobl mewn grwpiau oedran ieuengach yn ardal Bae’r Gorllewin.

BAE’R GORLLEWIN

2015

2030

2015

PEN-Y-BONT AR OGWR

52

CASTELL-NEDD PORT TALBOT

51

ABERTAWE

84

2030

PEN-Y-BONT AR OGWR

58

CASTELL-NEDD PORT TALBOT

56

ABERTAWE

92

RHAGAMCAN O NAM AR Y CLYW YMHLITH OEDOLION

Amcangyfrifir bod 4% o’r boblogaeth oedran gweithio yng Nghymru’n gwisgo cymhorthion clyw neu maent yn hollol fyddar. Mae’r gyfradd pan geir nam ar y clyw’n cynyddu’n sylweddol yn ôl oedran. Mae’r mwyafrif helaeth o bobl sydd wedi colli clyw’n hen. Gellid priodoli’r cynnydd yn nifer disgwyliedig yr oedolion y disgwylir iddynt ddioddef o nam ar y clyw i’r cynnydd yn y boblogaeth dros 65 oed.

BAE’R GORLLEWIN

2015

2030

2015

PEN-Y-BONT AR OGWR

15289

CASTELL-NEDD PORT TALBOT

15575

ABERTAWE

25907

2030

PEN-Y-BONT AR OGWR

21026

CASTELL-NEDD PORT TALBOT

19763

ABERTAWE

33042

Bydd babanod mewn perygl o fethu datblygu sgiliau iaith ac o gyrhaeddiad addysgol isel os na sylwir bod ganddynt nam ar y clyw.

Gall mynychtra nam ar y clyw fod yn uwch yng nghymunedau lleiafrifoedd ethnig a du, yn enwedig ymhlith ymfudwyr diweddarach o wledydd lle ceir llai o imiwneiddio yn erbyn cyflyrau megis rwbela.

Mae cysylltiad rhwng ffactorau amgylcheddol a mwy o berygl o nam ar y clyw megis sŵn uchel neu anaf uniongyrchol i’r pen.

Mae pobl â nam ar y clyw’n debygol iawn o gael problemau megis tinitws ac anhwylderau cydbwysedd.

Gall fod gan bobl sydd wedi colli clyw anableddau ychwanegol neu gyflyrau iechyd tymor hir sy’n cyfyngu ar eu gweithgareddau dyddiol, megis arthritis a phroblemau symudedd.

NAM AR DDAU SYNNWYR

NAM AR DDAU SYNNWYR

NIFER Y BOBL O BOB OEDRAN SY’N DIODDEF O NAM DIFRIFOL AR Y GOLWG A NAM AR Y CLYW

BAE’R GORLLEWIN ( 2014 – 2015 )

PEN-Y-BONT AR OGWR

%

CASTELL-NEDD PORT TALBOT

%

ABERTAWE

%

NIFER Y BOBL DROS 65 OED SY’N DIODDEF O NAM DIFRIFOL AR Y GOLWG A NAM AR Y CLYW

BAE’R GORLLEWIN ( 2014 – 2015 )

PEN-Y-BONT AR OGWR

%

CASTELL-NEDD PORT TALBOT

%

ABERTAWE

%

PETHAU A GRYBWYLLWYD GAN BOBL SY’N BWYSIG IDDYNT

PETHAU A GRYBWYLLWYD GAN BOBL SY’N BWYSIG IDDYNT

PWY SY’N DERBYN CYMORTH A PHA GEFNOGAETH SYDD AR GAEL?

PWY SY’N DERBYN CYMORTH A PHA GEFNOGAETH SYDD AR GAEL?

Gwasanaethau cymhwyso i blant a phobl ifanc:

– Timau cefnogaeth synhwyraidd ym mhob awdurdod

– Athrawon synhwyraidd arbenigol a gweithwyr lles disgyblion

– Clinigau Clyw a Llygaid Bwrdd Iechyd PABM

– Cyfleuster Adnoddau yng Nghanolfan Adnoddau Trem-y-Môr ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae timau cefnogaeth synhwyraidd ym mhob awdurdod lleol yn cefnogi plant ac oedolion, gan gynnwys asesiadau gweithrediadol, sgiliau cyfathrebu ac ymarferol, cyngor ar fudd-daliadau, ailsefydlu a chymhwyso. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu cyfarpar i alluogi pobl i fyw’n annibynnol.

– Athrawon synhwyraidd arbenigol a gweithwyr lles disgyblion ar gyfer cefnogaeth addysgol.

– Tîm ‘Rhowch Amser i’ch Hun’ PABM, sy’n hyrwyddo pwysigrwydd sicrhau bod gwybodaeth am ofal iechyd a dulliau cyfathrebu yn hygyrch i gleifion sy’n fyddar, yn drwm eu clyw, yn ddall, sydd â golwg rhannol neu sydd â nam ar ddau synnwyr.

– Clinigau Clyw a Llygaid Bwrdd Iechyd PABM, sy’n asesu ac yn ailsefydlu plant, pobl ifanc ac oedolion.

– Gwasanaethau trydydd sector, gan gynnwys grŵp drama, clwb nofio a Grŵp Cefnogi Deafblind Cymru.

– Cyfleuster Adnoddau yng Nghanolfan Adnoddau Trem-y-Môr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogi, gan gynnwys dosbarthiadau Braille, asesu a darparu cymhorthion amgylcheddol, arddangos cyfarpar megis ffonau, meddalwedd TG, iPads etc, a gweithdai symudedd a sgiliau cegin gyda sesiynau grŵp cefnogi cyfoedion.

– Mae Tîm Nam ar y Clyw hefyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy’n darparu grwpiau cefnogi wythnosol ar gyfer plant sydd wedi colli clyw a’u rhieni/gofalwyr.

PA NEWIDIADAU Y MAE’N RHAID I NI GYNLLUNIO AR EU CYFER?

PA NEWIDIADAU Y MAE’N RHAID I NI GYNLLUNIO AR EU CYFER?

LAWRLWYTHWCH Y PDF I GAEL MWY O WYBODAETH

LAWRLWYTHWCH Y PDF I GAEL MWY O WYBODAETH

© – Western Bay Programme
Tel/Ffôn: 01792 633805
western.bay@swansea.gov.uk