BETH YR YDYCH CHI’N EI FEDDWL WRTH BLANT A PHOBL IFANC?
BETH YR YDYCH CHI’N EI FEDDWL WRTH BLANT A PHOBL IFANC?
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn diffinio plentyn fel “person dan 18 oed oni bai fod y plentyn yn dod i oed cyn y ddeddf sy’n berthnasol i’r plentyn.” Fodd bynnag, mae nifer o wahanol ddeddfau ar draws y Deyrnas Unedig sy’n nodi’r terfynau oed mewn amgylchiadau gwahanol. Yng Nghymru, mae’r rhain yn cynnwys: amddiffyn plant, y rheiny sydd dan 18 oed; oedran cydsynio, 16 oed a’r oedran am gyfrifoldeb troseddol, 10 oed.
AR BWY Y BYDD HYN YN EFFEITHIO A SUT?
AR BWY Y BYDD HYN YN EFFEITHIO A SUT?
Cyn gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ym mis Ebrill 2016, pan gyfeiriwyd plentyn neu berson ifanc i wasanaethau plant a theuluoedd, fe’u croesawyd ‘ddrws blaen’ y gwasanaeth fel ‘plentyn mewn angen’. Gelwir y rhain bellach yn blant a theuluoedd y maent yn derbyn cymorth a chefnogaeth.
Ers 2012-2013 gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau a wnaed i Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc ym Mae’r Gorllewin.
Nifer yr atgyfeiriadau a wnaed i Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc (2012-2013)
BAE’R GORLLEWIN
PEN-Y-BONT AR OGWR
1009
CASTELL-NEDD PORT TALBOT
3763
ABERTAWE
2634
Nifer yr atgyfeiriadau a wnaed i Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc (2013-2014)
BAE’R GORLLEWIN
PEN-Y-BONT AR OGWR
1107
CASTELL-NEDD PORT TALBOT
1652
ABERTAWE
1598
Y nifer o ail atgyfeiriadau a wnaed i Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc (2014-2015)
BAE’R GORLLEWIN
PEN-Y-BONT AR OGWR
204
CASTELL-NEDD PORT TALBOT
201
ABERTAWE
301
Diffinnir ail atgyfeiriad fel atgyfeiriad i Wasanaethau Plant a Theuluoedd a wnaed o fewn 12 mis i’r atgyfeiriad blaenorol. Gan mai nod pob awdurdod yw diwallu anghenion cyn gynted â phosib a chyflawni canlyniadau cynaliadwy, mae pob awdurdod yn ymdrechu i weld cyn lleied o ail atgyfeiriadau â phosibl.
PLANT MEWN ANGEN
Mae rhwymedigaeth ar gynghorau i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer plant mewn angen yn eu hardal os bydd y gwasanaethau hynny’n cadw’r plentyn yn ddiogel ac yn iach. Gall ‘plentyn mewn angen’ fod yn:
– Anabl (am ddiffiniad o anabledd, gweler Deddf Plant 1989)
– Yn annhebygol ei fod wedi, neu am gael y cyfle, i gael iechyd neu ddatblygiad o safon resymol heb wasanaethau gan awdurdod lleol
– Yn annhebygol o ddatblygu yn nhermau iechyd neu ddatblygiad; neu’n
– Annhebygol o ddatblygu yn nhermau iechyd neu ddatblygiad heb wasanaethau gan awdurdod lleol.
Nifer y plant mewn angen 2012-2013
BAE’R GORLLEWIN
PEN-Y-BONT AR OGWR
1185
CASTELL-NEDD PORT TALBOT
1405
ABERTAWE
1720
Nifer y plant mewn angen 2013-2014
BAE’R GORLLEWIN
PEN-Y-BONT AR OGWR
1285
CASTELL-NEDD PORT TALBOT
1305
ABERTAWE
1740
Po fwyaf y boblogaeth o Blant mewn Angen, mwyaf y galw ar adnoddau awdurdod lleol. Mae nifer y plant mewn angen ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe wedi cynyddu tua 30% ers 2009-2010. I’r gwrthwyneb, mae’r niferoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi bod yn gymharol sefydlog gyda chynnydd o lai na 10%.
COFRESTR AMDDIFFYN PLANT
Os bydd awdurdod lleol yn nodi yn yr asesiad cychwynnol bod achos rhesymol i amau bod y plentyn yn dioddef, neu’n debygol o gael ei niweidio’n sylweddol, bydd yn pennu pa gamau sy’n angenrheidiol er mwyn diogelu a hyrwyddo lles y plentyn. Gall hyn gynnwys trefnu cynhadledd amddiffyn plant i benderfynu a ddylai enw’r plentyn gael ei roi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Os bydd ei enw’n cael ei roi ar y rhestr bydd grwp o weithwyr proffesiynol yn cael eu nodi i weithio gyda’r teulu er mwyn datblygu a darparu Cynllun Amddiffyn Plant i wireddu’r newid sydd ei angen.
Bae’r Gorllewin – Cofrestr Amddiffyn Plant fesul blwyddyn
PLANT SY’N DERBYN GOFAL
Bydd plentyn neu berson ifanc yn derbyn gofal os ydynt yn derbyn gofal gan awdurdod lleol naill ai o dan Adran 76 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu Adran 31 Deddf Plant 1989. Bydd plant dderbyn gofal pan na fydd eu rhieni geni yn gallu darparu gofal parhaus mewn lleoliad dros dro neu barhaol. Gall plant derbyn gofal o ganlyniad i gytundeb gwirfoddol gan eu rhieni neu o ganlyniad i orchymyn gofal.
Nifer y plant sy’n dechrau derbyn gofal fesul 10,000 o’r boblogaeth
ADDYSG
Lle y bo modd, bydd rhieni’n ceisio osgoi newid ysgolion eu plant er mwyn hyrwyddo sefydlogrwydd a chyfleoedd addysgol eu plentyn. Mae’r egwyddor hon yr un mor berthnasol i awdurdod lleol sy’n meddu ar Gyfrifoldeb Rhiant fel Rhiant Corfforaethol.
Canran y plant sy’n derbyn gofal sydd wedi newid ysgol nad oedd oherwydd trefniadau trosglwyddo yn ystod y 12 mis at 31 Mawrth 2015
PLANT SY’N GADAEL GOFAL
Oherwydd nifer uchel y bobl ifanc a aeth i ofal dros y nifer o flynyddoedd diwethaf, bydd gwasanaethau gadael gofal ym Mae’r Gorllewin yn gweld cynnydd yn y bobl ifanc sy’n gadael gofal yn y ddwy flynedd nesaf.
TROSEDDU IEUENCTID
Yn ystod 2015-2016 roedd 594 o droseddau gan bobl ifanc rhwng 10 a 17 oed ym Mae’r Gorllewin.
BAE’R GORLLEWIN
PEN-Y-BONT AR OGWR
CASTELL-NEDD PORT TALBOT
ABERTAWE
CAMFANTEISIO’N RHYWIOL AR BLANT
Ym Mae’r Gorllewin ar hyn o bryd mae 44 o blant a phobl ifanc yn cael eu monitro gan brotocol Camfanteisio’n Rhywiol ar blant.
BAE’R GORLLEWIN
PEN-Y-BONT AR OGWR
CASTELL-NEDD PORT TALBOT
ABERTAWE
PA GEFNOGAETH MAENT YN EI CHAEL?
PA GEFNOGAETH MAENT YN EI CHAEL?
MAGU PLANT CORFFORAETHOL
Pan fydd plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol o dan Orchymyn Gofal, daw’r cyngor yn rhiant corfforaethol â chyfrifoldeb cyfreithiol a moesol dros y plentyn hwnnw. Er bod llawer o agweddau ar gyfrifoldeb magu plant corfforaethol y cyngor yn cael eu dirprwyo i weithwyr gofal plant proffesiynol, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, mae gan aelodau etholedig (cynghorwyr) rôl bwysig i’w chyflawni. Mae gan rieni corfforaethol gyfrifoldeb am addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, iechyd, lles, cyfleoedd hamdden, tai a diwylliannol y plentyn.
CYMORTH CYNNAR
Credir ar draws Bae’r Gorllewin bod anghenion plant yn cael eu diwallu orau gyda’u teuluoedd eu hunain os gall hyn gael ei gefnogi’n ddiogel. Mae helpu teuluoedd i aros gyda’i gilydd yn ffocws allweddol ar gyfer yr holl wasanaethau ac mae’n dechrau gyda nodi anghenion yn gynnar ac ymyrryd yn gynnar yn effeithiol. Gall cefnogaeth ymyrryd yn gynnar a chefnogaeth ataliol hyrwyddo deilliannau lles da i blant a phobl ifanc a’u helpu i fyw bywyd iach a llawn.
DECHRAU’N DEG
Mae rhai gwasanaethau megis Dechrau’n Deg ar gael ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae Dechrau’n Deg yn rhan o raglen blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd sydd â phlant dan 4 oed sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru.
TÎM AM Y TEULU
Mae Tîm am y Teulu hefyd ar gael ym mhob un o ardaloedd awdurdodau lleol. Pan fydd gan deulu anghenion lluosog sy’n rhy eang/gymhleth i un gwasanaeth fynd i’r afael â hwy, mae’r Tîm am y Teulu’n cynnig ffordd o sicrhau bod teuluoedd:
Yn ystod 2014-2015 cyfeiriwyd cyfanswm o 1,014 o blant a phobl ifanc at Dîm am y Teulu ym Mae’r Gorllewin.
BAE’R GORLLEWIN
PEN-Y-BONT AR OGWR
CASTELL-NEDD PORT TALBOT
ABERTAWE
GWYBODAETH, CYNGOR A CHYMORTH
Fel rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n darparu sail ddeddfwriaethol wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru o 6 Ebrill 2016, mae darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ofynnol. Mae’n rhaid i’r awdurdodau lleol gyda chymorth partneriaid y Bwrdd Iechyd Lleol sicrhau bod gwasanaeth sy’n darparu gwybodaeth a chymorth sy’n ymwneud â lles, gofal a chefnogaeth yn eu hardal a (lle bo’n briodol) bod cymorth ar gael i gael mynediad at y rhain.
GOFAL MAETH
Yn 2014-2015 roedd 587 o ofalwyr maeth wedi’u cymeradwyo ym Mae’r Gorllewin.
BAE’R GORLLEWIN
PEN-Y-BONT AR OGWR
CASTELL-NEDD PORT TALBOT
ABERTAWE
GWASANAETH INTEGREDIG CYMORTH I DEULUOEDD
Gwasanaeth amlasiantaeth ar draws rhanbarth Bae’r Gorllewin yw’r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFSS) sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd y mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio arnynt.
Rhwng Ionawr 2016 ac Ionawr 2017 derbyniodd yr IFSS 107 o atgyfeiriadau (targed Llywodraeth Cymru ar gyfer Bae’r Gorllewin yw 100). O’r rhain, cam-drin alcohol oedd y prif fater o gamddefnyddio sylweddau.
MAGU PLANT CORFFORAETHOL
Pan fydd plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol o dan Orchymyn Gofal, daw’r cyngor yn rhiant corfforaethol â chyfrifoldeb cyfreithiol a moesol dros y plentyn hwnnw. Er bod llawer o agweddau ar gyfrifoldeb magu plant corfforaethol y cyngor yn cael eu dirprwyo i weithwyr gofal plant proffesiynol, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, mae gan aelodau etholedig (cynghorwyr) rôl bwysig i’w chyflawni. Mae gan rieni corfforaethol gyfrifoldeb am addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, iechyd, lles, cyfleoedd hamdden, tai a diwylliannol y plentyn.
GWASANAETH YMYRRYD YN GYNNAR A CHYFIAWNDER IEUENCTID BAE’R GORLLEWIN
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Bae’r Gorllewin (Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid) yn cymryd ymagwedd amlasiantaeth at droseddau ieuenctid. Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda phobl ifanc 10-17 oed ac mae 3 prif faes gwaith:
Atal troseddu
Plant a phobl ifanc sy’n troseddu
Diogelwch Cymunedol
Roedd 108 o bobl ym Mae’r Gorllewin yn mynd i mewn i’r system Cyfiawnder Ieuenctid am y tro cyntaf yn 2015-2016:
BAE’R GORLLEWIN
PEN-Y-BONT AR OGWR
CASTELL-NEDD PORT TALBOT
ABERTAWE
PA NEWIDIADAU Y MAE’N RHAID I NI GYNLLUNIO AR EU CYFER?
PA NEWIDIADAU Y MAE’N RHAID I NI GYNLLUNIO AR EU CYFER?
– Mae angen cryfhau gwasanaethau ar gyfer plant sy’n ofalwyr.
– Mae angen parhau i leihau nifer y plant sy’n derbyn gofal yn ddiogel ar draws Bae’r Gorllewin.
– Parhau i ddatblygu gwasanaethau sydd wedi’u targedu ar gyfer cefnogi teuluoedd i leihau risg sy’n gysylltiedig â phlant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.
– Mae angen mwy o opsiynau llety ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n gadael y system ofal.
– Mae angen sicrhau bod yna drefniant comisiynu cadarn ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth i’r holl blant, nid y bobl hynny’n unig sy’n derbyn gofal.
– Mae angen llawer mwy o waith penodol er mwyn deall, ar lefel strategol, anghenion poblogaeth Bae’r Gorllewin. – Mae angen llawer mwy o waith, er enghraifft, i wella ein gwybodaeth o bynciau a charfanau megis gwahaniaethau rhyw, ethnigrwydd, gofalwyr ifanc, iechyd meddwl a phlant anabl, a’r rhai sydd ag anghenion ychwanegol.
– Parhau i godi safonau cyflawniad a chyrhaeddiad i bawb, gwella’r amgylchedd dysgu, a defnyddio’r adnoddau ffisegol, ariannol a dynol yn well.