BETH YR YDYCH CHI’N EI FEDDWL WRTH BOBL HŶN?

BETH YR YDYCH CHI’N EI FEDDWL WRTH BOBL HŶN?

Nid oes unrhyw gytundeb cyffredinol ynghylch pryd y mae henaint yn dechrau. Mae Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn Llywodraeth Cymru yn diffinio pobl hŷn fel pobl sy’n 50 oed ac yn hŷn, er mae hyn wedi bod yn destun llawer o drafodaethau (Llywodraeth Cymru, 2013). Yn yr adran hon, mae’r mwyafrif o’r data sy’n cael ei gyflwyno yn ymwneud â’r rhai sy’n 65 oed ac yn hŷn. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau eglurder gwnaed pob ymdrech i gyfeirio at yr ystod oedran yn y datganiadau a wnaed yn yr asesiad hwn.

Nid yw anghenion yr holl bobl hŷn yr un peth. Mae gan statws economaidd-gymdeithasol, rhyw ac ethnigrwydd i gyd rôl i’w chwarae wrth lunio anghenion a deilliannau pobl. Yn yr un modd, bydd anghenion pobl hŷn sydd mewn iechyd da fel arall yn wahanol iawn i anghenion y bobl hynny sy’n dioddef o lesgedd a chyflyrau iechyd eraill.

AR BWY Y MAE HYN YN EFFEITHIO A SUT?

AR BWY Y MAE HYN YN EFFEITHIO A SUT?

Ym Mae’r Gorllewin, nid ydym eto yn mesur cyfraniad pobl hŷn i’r rhanbarth, er enghraifft, nid ydym yn gwybod faint o oriau gwirfoddoli y maent yn eu cyflawni neu’r cyfraniad y maent yn ei wneud i’w cymunedau. Mae hyn wedi ei nodi fel bwlch yn yr asesiad o’r boblogaeth a dylid ymgymryd â mwy o waith er mwyn archwilio hyn.


Un o’r arwyddion cyntaf bod person hŷn yn dechrau colli’r gallu i fyw yn annibynnol yw ei anallu i gwblhau tasgau domestig megis cadw’r cartref yn lân ac yn daclus, gwisgo’i hunain a pharatoi prydau.

MAE’R DATA RHAGAMCANOL A GYNHYRCHWYD GAN DAFFODIL YN DANGOS YN 2020 YM MAE’R GORLLEWIN:

EFFEITHIR AR BOBL HŶN MEWN SAWL FFORDD:

DEMENTIA

Mae dementia yn fwy cyffredin wrth i bobl heneiddio


Yn 2015, derbyniodd oddeutu 6,979 o bobl ym Mae’r Gorllewin ddiagnosis o ddementia. Erbyn 2030, rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu 48% i 10,295.

TAI

Mae’r fath o ddeiliadaeth tai yn bwysig yn nhermau ei haddasrwydd ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio.

Deiliadaeth tai 2008 ar gyfer y rheiny sy’n 65 oed ac yn hŷn.

Perchnogion Preswyl

Awdurdod Lleol

Cymdeithas Tai

Rhentu Preifat

YN BYW’N ANNIBYNNOL

Gall unigedd ac arwahanrwydd cymdeithasol arwain at nifer o broblemau corfforol a phroblemau iechyd megis symptomau o iselder ac mewn perygl cynyddol o farwolaeth gynamserol.


Ym Mae’r Gorllewin, y rhagamcaniad ar gyfer y boblogaeth sy’n 65 oed ac yn hŷn yn 2020 yw 111,060, ac o’r boblogaeth hynny, rhagwelir y bydd 50,364 (45.3%) o bobl yn byw ar eu pennau eu hunain. Yn 11.10%, mae canran y menywod sy’n 65 oed ac yn hŷn ac yn byw ar eu pennau eu hunain dros ddwbl canran y dynion sy’n byw ar eu pennau eu hunain (4.55%). Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar dai.

CWYMPIADAU

Bydd oddeutu un o bob tri pherson dros 65 oed yn syrthio pob blwyddyn.

Rhagamcaniad o’r bobl sy’n 65 oed ac yn hŷn y bydd yn rhaid iddynt fynd i’r ysbyty ar ôl cwympo (Bae’r Gorllewin)

2015

2030

MARWOLAETHAU GORMODOL YN Y GAEAF

Mae mynegai Marwolaethau Gormodol yn y Gaeaf yn cymharu nifer y marwolaethau sy’n digwydd yn y cyfnod gaeaf presennol â nifer cyfartalog y marwolaethau ym misoedd blaenorol yr un flwyddyn. Mae’r marwolaethau gormodol hyn yn fwy cyffredin mewn pobl hŷn.


Rhwng 2010 a 2013, 270 oedd y nifer cyfartalog blynyddol o farwolaethau gormodol yn y gaeaf ym Mae’r Gorllewin. Roedd marwolaethau yn y gaeaf 18.9% yn uwch o’u cymharu â misoedd eraill y flwyddyn.

DERBYNIADAU I’R YSBYTY

Pobl hŷn sy’n defnyddio’r ysbyty fwyaf a nhw yw’r grŵp oedran mwyaf tebygol o gael eu derbyn i’r ysbyty mewn argyfwng. Ym Mae’r Gorllewin mae nifer y bobl o’r cymunedau mwyaf difreintiedig sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty 35% yn uwch na’r nifer sy’n cael eu derbyn o gymunedau llai difreintiedig.

ALCOHOL

Mae pobl hŷn mewn perygl o gamddefnyddio alcohol yn dilyn newidiadau mawr i’w bywydau.


Ym Mae’r Gorllewin, rhagwelir erbyn 2020 y bydd oddeutu 11,337 o bobl sy’n 65 oed ac yn hŷn yn gor yfed mewn pyliau.

TROSGLWYDDO GOFAL A OHIRIWYD

Ceir oedi wrth drosglwyddo gofal pan fo claf mewnol mewn ysbyty yn barod i fynd adref neu’n barod i symud i’r cam gofal llai aciwt nesaf, ond yn cael ei atal rhag gwneud hynny.


Mae cyfradd y bobl sy’n profi oedi (sownd) wrth gael eu rhyddhau o’r ysbyty am resymau gofal cymdeithasol yn 2013-2014 yn llai ym Mwrdd Iechyd PABM na chyfartaledd Cymru. Yn 2013-2014 roedd cyfradd uwch o bobl hŷn, 65 oed ac yn hŷn, yn derbyn cefnogaeth gofal cymdeithasol o’u cymharu â chyfartaledd Cymru.

CYFLYRAU AR Y GALON

Mae trawiadau ar y galon yn fwy tebygol o ddigwydd wrth i bobl fynd yn hŷn.

CLEFYD RHWYSTROL CRONIG YR YSGYFAINT (COPD)

Achosir COPD yn gyffredin gan smygu a gall leihau gallu person i ymarfer corff ac arwain at ordewdra a’r risgiau cysylltiedig, yn ogystal â dirywiad cyffredinol mewn lles.


Rhagwelir ym Mae’r Gorllewin erbyn 2020 y bydd gan 1,863 o bobl sy’n 65 oed ac yn hŷn gyflwr iechyd tymor hir sydd wedi’i achosi gan froncitis a/neu emffysema.

STRÔC

Cyflwr difrifol sy’n bygwth ac yn newid bywyd – mae’r mwyafrif y bobl yr effeithir arnynt gan strôc dros 65 oed.


Rhagwelir ym Mae’r Gorllewin erbyn 2020 y bydd 8,691 o bobl sy’n 65 oed ac yn hŷn wedi derbyn triniaeth ar gyfer strôc.

CANSER

Mae bron i ddau draean o bobl sydd dros 65 oed a thraean o bobl sy’n 75 oed ac yn hŷn yn derbyn diagnosis o ganser. Rhagwelir y bydd 2,380 o achosion canser newydd ym mhobl dros 65 oed ym Mae’r Gorllewin erbyn 2020.

GORDEWDRA

Mae’r British Medical Journal yn adrodd bod gordewdra ymhlith yr henoed yn y Deyrnas Unedig yn uwch na gordewdra ymhlith pobl ifanc, gyda bron i dri chwarter o’r rhai sydd rhwng 65 a 74 oed yn cael eu hystyried yn ordew neu dros bwysau.


Rhagwelir y bydd 99,840 o bobl sy’n 65 oed ac yn hŷn dros bwysau ym Mae’r Gorllewin erbyn 2020.

DIABETES

O ganlyniad i boblogaeth sy’n byw’n hwy ynghyd â’r cynnydd ym mhwysau’r boblogaeth a’r gostyngiad yn lefel gweithgarwch corfforol y boblogaeth, mae’r achosion o ddiabetes yn cynyddu.


Rhagwelir y bydd 32,013 o bobl sy’n 65 oed ac yn hŷn â diabetes ym Mae’r Gorllewin erbyn 2020. Oddeutu 8,930 o bobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 8,752 o bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot a 14,331 yn Abertawe.

YMATALIAETH

Gall anymataliaeth effeithio’n fawr ar allu unigolyn a’i hyder i fyw bywyd arferol.


Amcangyfrifir y bydd gan oddeutu 18,208 o bobl sy’n 65 oed ac yn hŷn broblem a’u pledrenni o leiaf unwaith yr wythnos ym Mae’r Gorllewin yn 2020. Cyfanswm o 5,012 o bobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 4,955 o bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot a 8,241 o bobl yn Abertawe.

PETHAU A GRYBWYLLWYD GAN BOBL SY’N BWYSIG IDDYNT

PETHAU A GRYBWYLLWYD GAN BOBL SY’N BWYSIG IDDYNT

PA GEFNOGAETH MAENT YN EI DERBYN?

PA GEFNOGAETH MAENT YN EI DERBYN?

Mae cyfanswm o 11 o glystyrau meddyg teulu ym Mae’r Gorllewin/Bwrdd Iechyd a chyfanswm o 77 o feddygfeydd meddyg teulu.

GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL

Mae gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn sydd â phroblemau iechyd meddwl ar draws Bae’r Gorllewin yn cael eu darparu’n gyffredinol ar gyfer rheiny sydd dros 65 oed, er bod y gwasanaeth a ddarperir yn cael ei arwain gan anghenion a gall pobl ifanc hefyd gael mynediad i’r gwasanaeth.

Y nifer o oedolion sy’n 65 oed ac yn hŷn sy’n derbyn cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl (y flwyddyn gyfan):

Pen-y-bont ar Ogwr

Castell-nedd Port Talbot

Abertawe

Bae’r Gorllewin

2014 – 2015

370

102

471

943

GWASANAETHAU YN Y GYMUNED

Mae gwasanaethau yn y gymuned yn cynnwys gwasanaethau gofal ailsefydlu/canolradd ac yn cael eu darparu i gleifion, pobl hŷn yn gyffredinol, er mwyn eu helpu i osgoi gorfod mynd i’r ysbyty yn ddiangen.

Nifer yr oedolion sy’n 65 oed ac yn hŷn sy’n derbyn cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl (y flwyddyn gyfan)

Cyfanswm nifer y bobl sy’n 65 oed ac yn hŷn sy’n cael eu cefnogi gan Wasanaethau Cymdeithasol yn y gymuned

Pen-y-bont ar Ogwr

Castell-nedd Port Talbot

Abertawe

Bae’r Gorllewin

2014 – 2015

3202

3967

3750

10919

Nifer y bobl sy’n 65 oed ac yn hŷn sy’n derbyn gofal cartref

1974

1332

2634

5940

Nifer y bobl sy’n 65 oed ac yn hŷn sy’n cael eu cefnogi mewn lleoliad gofal preswyl/gofal nyrsio

693

891

1299

2883

Nifer y bobl sy’n 65 oed ac yn hŷn sy’n derbyn gofal dydd

247

622

702

1571

GWASANAETHAU AILALLUOGI

Mae’r Tîm Ailalluogi yn cyflwyno rhaglen asesu a therapi i alluogi pobl, cyn belled â phosib, i adennill eu sgiliau a’u hannibyniaeth yn ogystal â darparu lefel addas o gefnogaeth gydag anghenion o ddydd i ddydd.


Ar 31 Mawrth 2015, roedd cyfanswm o 837 o bobl 18 oed ac yn hŷn yn derbyn cymorth gan wasanaethau ailalluogi ym Mae’r Gorllewin.

TALIADAU UNIONGYRCHOL

Taliadau arian parod yw taliadau uniongyrchol, sy’n cael eu rhoi gan y cyngor i bobl sydd wedi asesu anghenion gofal cymdeithasol, er mwyn rhoi mwy o ddewis iddynt am y math o gymorth y maent yn eu derbyn.

Cyfanswm nifer y bobl sy’n 65 oed ac yn hŷn sy’n derbyn taliadau uniongyrchol

Pen-y-bont ar Ogwr

Castell-nedd Port Talbot

Abertawe

Bae’r Gorllewin

26

69

127

222

GOFAL LLINIAROL A DIWEDD OES

Mae gofal lliniarol i bobl sy’n byw gyda salwch terfynol lle nad yw’n bosibl bellach i’w wellhau. Mae yna dri phrif gyfleuster gofal lliniarol arbenigol sy’n gofalu am bobl sy’n dioddef o ganser ym Mae’r Gorllewin:


– Hosbis y Bwthyn Newydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr

– Uned ddydd cymorth canser y Rhosyn yn ysbyty Castell-nedd Port Talbot

– Hosbis Tŷ Olwen ar safle Ysbyty Treforys yn Abertawe

PA NEWIDIADAU Y MAE’N RHAID I NI GYNLLUNIO AR EU CYFER?

PA NEWIDIADAU Y MAE’N RHAID I NI GYNLLUNIO AR EU CYFER?


– Mae’n rhaid i ni weithio gyda darparwyr er mwyn sicrhau bod gofal preswyl yn addas i’r diben

– Mae angen datblygu gwasanaethau sy’n delio ag effaith andwyol unigrwydd ac unigedd cymdeithasol ar iechyd pobl hŷn

– Mae angen brys i ddatblygu ymagwedd gydweithredol at gefnogi teuluoedd sy’n byw ag effeithiau dementia

– Mae angen buddsoddiad parhaus yng ngwasanaethau ymyrryd ac atal cynnar am fod disgwyl i boblogaeth oedolion hŷn gynyddu 8% erbyn 2013

– Mae angen i ni annog pobl i gymryd gwell gofal o’u hiechyd er mwyn atal/ohirio’r adeg pan fyddant angen cefnogaeth iechyd a gofal

– Symud y gwaith ailfodelu gwasanaethau dydd/cyfleoedd dydd o’r ffordd draddodiadol o gyflwyno gwasanaethau mewn adeiladau

– Sicrhau bod gwasanaethau a brynwyd gan ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol yn diwallu anghenion a aseswyd a deilliannau lles

– Sicrhau bod pobl wrth wraidd eu gofal eu hunain

– Darparu cefnogaeth well ar gyfer gofalwyr di-dâl gan ystyried twf y boblogaeth hŷn

– Mae angen gwaith pellach i gasglu data/tystiolaeth o anghenion nawr ac yn y dyfodol y bobl hŷn sydd â nodweddion gwarchodedig a’r rheiny sy’n siarad Cymraeg

LAWRLWYTHWCH Y PDF AM FWY O WYBODAETH

LAWRLWYTHWCH Y PDF AM FWY O WYBODAETH



© – Western Bay Programme
Tel/Ffôn: 01792 633805
western.bay@swansea.gov.uk