Warning: A non-numeric value encountered in /home/westernbay/3QKN0C1T/htdocs/wp-content/themes/Divi/functions.php on line 5841

BETH YW YSTYR SEFYDLIADAU DIOGEL?

BETH YW YSTYR SEFYDLIADAU DIOGEL?

Yn ardal Bae’r Gorllewin, mae tri phrif sefydliad “diogel” – dau garchar (un yn Abertawe ac un ym Mhen-y-bont ar Ogwr) ac un cartref diogel i blant yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae’n bwysig y diwellir anghenion gofal a chefnogaeth pobl sy’n byw yn y sefydliadau diogel a bod cynlluniau ar waith i sicrhau hefyd fod pobl yn cael mynediad i’r gofal a’r gefnogaeth y gall fod angen arnynt pan fyddant yn cael eu rhyddhau i fyw yn y gymuned ehangach.

CARCHAR EI MAWRHYDI A SEFYDLIAD TROSEDDWYR IFANC Y PARC, PEN-Y-BONT AR OGWR

CARCHAR EI MAWRHYDI A SEFYDLIAD TROSEDDWYR IFANC Y PARC, PEN-Y-BONT AR OGWR

Gall Carchar EM a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc ddarparu ar gyfer hyd at 2,000 o garcharorion gwrywaidd Categori B.
Ceir dwy brif ran:
Uned i ddynion ifanc rhwng 15 a 17 oed
Prif garchar i droseddwyr ifanc rhwng 18 a 21 oed a throseddwyr sy’n oedolion

AR BWY Y MAE HYN YN EFFEITHIO A SUT?

Dan 21 oed

166

50 i 59 oed

115

21 i 29 oed

578

60 i 69 oed

53

30 i 39 oed

498

Dros 70 oed

19

40 i 49 oed

239

Uchafswm oedran: 89

0

Mae’r rhan fwyaf o droseddwyr wedi’u dedfrydu i fwy na 2 flynedd yn y carchar, gyda 580 (35%) wedi’u dedfrydu i rhwng 4 a 10 mlynedd.

Mae’r Uned i Bobl Ifanc yng Ngharchar EM a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc yn derbyn hyd at 64 dyn ifanc rhwng 15 a 17 oed.

PWY SY’N DERBYN CYMORTH A PHA GEFNOGAETH SYDD AR GAEL?

MAE’R CARCHAR YN CEFNOGI’R CANLYNOL YN UNIONGYRCHOL:

Addysg

Camddefnyddio Sylweddau

Diwydiannau

Rheoli Troseddwyr

Hyfforddiant Galwedigaethol

Rhaglenni Ymyrryd

MAE NIFER O GARCHARORION YN DERBYN GWASANAETHAU GOFAL SYLFAENOL AC EILAIDD O’R RHEINY:

Mae 222 o garcharorion sydd wedi cael diagnosis cychwynnol o afiechyd meddwl ysgafn neu gymedrol yn cael mynediad i wasanaethau meddygon/gofal sylfaenol.

Mae 38 sydd ag afiechyd meddwl difrifol yn ôl diagnosis ac asesiad yn cael mynediad i wasanaethau iechyd meddygol arbenigol/gofal eilaidd.

IECHYD A LLES EMOSIYNOL – HUNANLADDIAD A HUNAN-NIWEIDIO

CHWARTER

Gorffennaf – Medi 2015

Hydref – Rhagfyr 2015

Ionawr – Mawrth 2016

Ebrill – Mehefin 2016

DIGWYDDIADAU O HUNAN-NIWEIDIO

204

213

330

400

POBLOGAETH GYFARTALOG

1684

1670

1665

1657

CANRAN HUNAN-NIWEIDIO O’I CHYMHARU Â’R BOBLOGAETH

%

%

%

%

PA NEWIDIADAU Y MAE’N RHAID I NI GYNLLUNIO AR EU CYFER?

Mae tystiolaeth bod troseddu’n cynyddu yn ystod cyfnodau o ddirwasgiad economaidd.

Mae cynnydd ym mhoblogaeth carcharau ar draws y DU, gan arwain at fwy o alw am wasanaethau yn y Parc os bydd y boblogaeth yno’n cynyddu i’r cyfanswm llawn.

Nid oes unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol i garcharorion yng Nghymru gan ei fod o fewn dyraniad awdurdodau lleol i roi’r Ddeddf ar waith.

HILLSIDE

HILLSIDE

Mae Hillside yn gartref diogel i blant ar gyfer bechgyn a merched, gan ddarparu gofal preswyl llawn, cyfleusterau addysgol a gofal iechyd.
Mae pobl ifanc yn Hillside mewn sefyllfa argyfyngus ac ni ellir eu cefnogi’n ddiogel mewn mannau eraill.

AR BWY Y MAE HYN YN EFFEITHIO A SUT?

Mae cartrefi diogel i blant yn cynnig lleoliadau i fechgyn a merched, gan gynnwys gofal preswyl llawn, cyfleusterau addysgol a gofal iechyd. Cynigir cymorth dwys o safon i bob person ifanc. Mae staff mewn cartrefi diogel i blant yn gweithio’n agos gyda phartneriaid amlasiantaeth er mwyn cyflwyno cynlluniau gofal unigol.

Mae 14 o gartrefi diogel i blant yn Lloegr ac 1 yng Nghymru. Agorwyd Hillside, sy’n gartref diogel i blant, yng Nghastell-nedd ym 1996.

PWY SY’N AROS YN HILLSIDE?

BECHGYN

2013 – 2014

2014 – 2015

2015 – 2016

MERCHED

2013 – 2014

2014 – 2015

2015 – 2016

Ar gyfartaledd, mae pobl ifanc yn aros yn Hillside am 3 i 4 mis.

PWY SY’N DERBYN CYMORTH A PHA GEFNOGAETH SYDD AR GAEL?

MAE RHAGLENNI CEFNOGI YN HILLSIDE YN CYNNWYS:

Llety ‘Symud Ymlaen’ Addas

Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant

Cyngor ar Gyllid, Budd-daliadau a Dyledion

Cefnogaeth a Chyngor ar Iechyd a Lles

BETH MAE ANGEN CYMORTH AR BOBL YN HILLSIDE I’W WNEUD?

PA NEWIDIADAU Y MAE’N RHAID I NI GYNLLUNIO AR EU CYFER?

Mae galw am wasanaeth trosglwyddo i gefnogi pobl ifanc sy’n gadael y ddarpariaeth.

Mae Hillside yn bwriadu datblygu ei wasanaeth cludiant diogel ei hun i ddiwallu anghenion awdurdodau lleol sy’n rhoi lleoliadau i blant a phobl ifanc.

Mae angen gweithlu sy’n gwybod am drawma ac yn deall goblygiadau profiadau andwyol yn ystod plentyndod.

Mae pwysau cynyddol ar leoedd.

CARCHAR EM ABERTAWE

CARCHAR EM ABERTAWE

Carchar Categori B yw Carchar EM Abertawe a gall ddarparu ar gyfer hyd at 515 o ddynion.

AR BWY Y MAE HYN YN EFFEITHIO A SUT?

PROFFIL OEDRAN

  • Dan 21 oed 7%
  • Rhwng 21 a 29 oed 35%
  • Rhwng 30 a 39 oed 36%
  • Rhwng 40 a 49 oed 16%
  • Rhwng 50 a 59 oed 5%
  • Rhwng 60 a 69 oed 1%

PA MOR HIR Y MAE POBL YN AROS?

  • Llai na mis 37%
  • Rhwng 1 a 3 mis 31%
  • Rhwng 3 a 6 mis 21%
  • Rhwng 6 mis a blwyddyn 9%
  • Rhwng blwyddyn a 2 flynedd 2%
  • Cyfanswm 100%

#PROFFIL IECHYD

Carcharorion â diabetes

Carcharorion ag epilepsi

Carcharorion â chlefyd coronaidd y galon

ANABLEDDAU

Anffurfiad difrifol

Cyflwr cynyddol

Nam ar y golwg

Galluedd corfforol cyfyngedig

Symudedd cyfyngedig

Dyslecsia

Anabledd Dysgu

Anabledd arall

Salwch Meddwl

PWY SY’N DERBYN CYMORTH A PHA GEFNOGAETH SYDD AR GAEL?

GOSTWNG DIBYNIAETH AR SYLWEDDAU

Atgyfeiriadau i wasanaeth cyffuriau’r carchar, sef Cwnsela, Asesu, Atgyfeirio ac Ôl-ofal (CARAT)

MIS

Ebrill

77

Mai

89

Mehefin

95

Gorffennaf

109

Roedd y rhan fwyaf o atgyfeiriadau a dderbyniwyd rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2015 yn ymwneud â heroin (149 o achosion) ac alcohol (107).

MAE’R GEFNOGAETH ARALL YN CYNNWYS

Rhoi’r Gorau i Smygu

Gwasanaethau Gofal Iechyd ac Iechyd Meddwl

Pact (Cefnogi Teuluoedd)

Gwasanaethau Ailsefydlu ac Addysg

PA NEWIDIADAU Y MAE’N RHAID I NI GYNLLUNIO AR EU CYFER?

Mae rhoi’r Ddeddf ar waith yn gynnar yn awgrymu y gall cefnogaeth sy’n gysylltiedig ag ailsefydlu fod yn flaenoriaeth.

Mae angen ymateb amlasiantaeth i fodloni gofynion atal.

Mae angen i strategaethau comisiynu ar y cyd yn y dyfodol gynnwys gofynion atal pobl mewn sefydliadau diogel.

Mae angen llwybrau triniaeth ar gyfer pobl sy’n defnyddio sylweddau seicoweithredol gwahanol.

Dylid sicrhau bod cwnsela ar gael i garcharorion sydd wedi’u dedfrydu i’r carchar am amser hwy.

Mae angen hyfforddiant ychwanegol ar gyfer staff gofal sylfaenol o ran iechyd rhywiol a chamddefnyddio sylweddau.

LAWRLWYTHWCH Y PDF I GAEL MWY O WYBODAETH

LAWRLWYTHWCH Y PDF I GAEL MWY O WYBODAETH

© – Western Bay Programme
Tel/Ffôn: 01792 633805
western.bay@swansea.gov.uk